Printable Version of Topic
Click here to view this topic in its original format
Celtic Radio Community > Welsh > Advanced Welsh


Posted by: WizardofOwls 17-Apr-2005, 05:11 PM
Hello everyone!

I am introducing this thread as a place where those who are advanced in their studies of Welsh will have a place ot chat without having to post translations. Please try not to post any English here. Now, with that said, I must confess that I speak NO Welsh, so I will be depending on some of the more advanced learnersto help me keep an eye on this place so that nothing gets posted that shouldn't!

Now with that said, let's get on to the Welsh!

Posted by: gwenynen 18-Apr-2005, 07:52 AM
WizardofOwls,

Please let me write in English here just this time for the entire members. I thank you very much for setting up this new thread. I hope other Welsh learners and speakers will post here.

Hwyl am y tro!

Posted by: WizardofOwls 18-Apr-2005, 07:59 AM
Well, actually I would like to keep this particular thread for Advanced Welsh only. I will, however, start anohter thread for you, Beginner's Welsh, where you can post both in Welsh and English. Would that help?

I need to edit this in.... It appears that I misunderstood your original post. Yes you are excused for this one English post! And, by the way, you're welcome! smile.gif Sorry about that!

Posted by: Antwn ap Ioan 18-Apr-2005, 08:28 PM
Diolch am y fforwm Cymraeg ac i'r aelod ar Welsh Language of AZ sydd wedi awgrymu'r wefan hon. Dim ond dysgwr ydw i (ar ddiwrnod da) ond dw i'n falch o gael lle newydd i sgwrsio ac "hob nob" â phobl am gerddoriaeth neu unrhywbeth eich bod yn hoffi. Welwn ni os bydd digon o siaradwyr yn tanysgrifio i'r bwrdd 'ma i gadw'r ymddiddan yn mynd ymlaen neu beidio. Dw i'n gobeithio am y gorau. Rho' wybod imi pa fath o gerddoriaeth eich bod chi'n hoffi yn well na dim arall os ydych chi'n moyn.

Tony

Posted by: Siarls 22-Apr-2005, 10:56 AM
Mae flin gennyf ond ni allaf ffeindio edau'r Gymraeg i Ddysgwyr. Ble mae, os gwelwch yn dda? Siaradaf Gymraeg yn rhugl, ond hoffwn gyfarfod a^ phobl newydd sydd yn siarad Cymraeg neu yn rhannu fy niddordebau.

Sorry but I can't find the Beginner's Welsh thread. Where is it, please? I speak Welsh, but I would like to meet new people who speak Welsh or who share my interests.

Posted by: WizardofOwls 22-Apr-2005, 11:07 AM
Hi Siarls! Here is a link for you:

http://www.celticradio.net/php/forums/index.php?showtopic=6861

Sorry for the English!

Posted by: austaff 10-Feb-2006, 10:10 PM
Ddoe es i gyda’r fy wraig i’r traeth am y dydd. Roedd y tywydd yn braf ac hualog. Does ddim lawer o bobl o gwmpas achos roedd y plant yn i’r ysgol felly ydy hi’n dawel iawn. Mae môr yn gosteg gyda dim tonnau neu wyntog, y tywod gynnes y plant ifanc chwaraeon adeiladu castell tywod neu nofio yn y môr. Cerddon ni am milltiroedd ar hyd y traeth y haul twym ar ein cefn.

Gwelon ni “eryrod môr” arnofyn yn yr awyr, roedd mae’n nhw’n hawdd i wylio. Eisteddon ni ac fwyta cinio canol dydd o brechdanau salad ac ffres ffrwythau a lawer o dwr.

Darllenodd ni ein lyfr am ychydig aeth fy wraig am nofio yn y môr wedyn syched yn y haul. Wedi blino dyn ni gyrroedd adref, yn ôl i realiti. angel_not.gif

hywl am y tro
Austaff


Posted by: austaff 10-Feb-2006, 10:57 PM
fy ngwraig rhaid i fi cofio

Posted by: Siarls 11-Feb-2006, 07:30 AM
'Na swnio'n hyfryd, Austaff! Mae tywydd hyfryd fan hon hefyd - 'chydig oer ond dim ots - mae'n teimlo fel plygain yr haf!! (early summer's morning).

Pam 'dych chi gyd ddim yn cywrio'ch gilydd? Chi'n gallu trafod pwyntiau gramadegol ac anawsterau - be sy'n gywir, be sy'n gwneud synnwyr a sut chi'n gallu gwella,
e.e. dwedodd Austaff "o gwmpas". wel, yn yr achos 'ma, "o'n cwmpas" yw ffurf well. pam? ydy e'n gwneud synnwyr ichi? sut allech gofio rheol 'ma?

Wel, gydag arddodiaid fel "o gwmpas", mae rhaid dweud o gwmpas rhywbeth. So, o gwmpas beth? Wel, o gwmpas... "ni".
Felly:
o'm cwmpas (Around me)
o'th gwmpas (Around you)
o'i gwmpas (around him)
o'i chwmpas (around her)
o'n cwmpas (Around us)
o'ch cwmpas (Around you)
o'u cwmpas (around them)

Allech chi feddwl am arddodiaid eraill sy'n gweithio yn yr yn modd?

Gyda llaw Austaff, a dderbynaist fy ebost?

Posted by: gwenynen 11-Feb-2006, 09:46 AM
Bendigedig, Austaff! O't ti'n nofio hefyd?

Roedd hi'n rhy gynnes ac yn sych yn y gaeaf eleni ond mae'n ddigon oer y dyddiau ma o'r diwedd (Dw i'n hoff o dywydd oer.) Dyn ni'n defnyddio 'wood burning stove' (dim lle tân.) Mae'n cadw'r ty'n gynnes iawn. Mae fy ngwr ac fy mab (16 oed) yn torri coedydd ar ei gyfer (dyna ti, Siarls!) o dro i dro. Mae tomen goedydd tân fawr wrth ochr y ty.

Diolch, Siarls am y restr. Does dim unrhyw dreiglad ar ôl "o'm" te?


Posted by: austaff 12-Feb-2006, 11:59 PM
Diolch Siarls am y rhestr bydda i cofio o’n gwmpas. Wyt ti’n wych athro smartass.gif

Gwenynen...Byddwn i wrth fy modd nofio ond ges i ddamwain yn 1981. Gwympais i oddi wrth y ceffyl ro’n i’n marchogaeth a thorri fy hasgwrn cefn. Collais i y ddefnydd o ddwy fy nghoesau ac un fraich felly dw i’n mewn gadair olwyn nawr. Ro’n i’n yn ysbyty Undeg un fis, i dechrau roedd hi’n caled ond dw i wedi dod i termau gyda’r fy bywyd mewn gadair olwyn, felly peidio (peidiwch) teimlo flin da fi wheelchair.gif

Posted by: gwenynen 13-Feb-2006, 09:06 AM
Wyt ti'n teipio gyda un law, te? Na, fydda i ddim yn teimlo'n flin drosot ti. Dim ond falch dy fod yn dysgu gyda ni. Sut mae hwyl gyda Dyfal Donc? Dw i'n dysgu gwers deg nawr. Mae'n wych ar gyfer ymarfer siarad.

Posted by: Antwn 13-Feb-2006, 01:26 PM
Ah! Tywydd cynnes, dw i'n cofio hynny. Ni allai Natur benderfynu pa fath o aeaf ei bod yn moyn eleni. 'Roedd Ionawr yn cynnes iawn, ambell waith collodd y tymheredd i 70F, chwedyn des i o hyd i eira ar y ddaear y bore 'ma. Yna yn y prynhawn daeth yr haul i maes a'i ddadlaith.

Austaff, wyt ti wedi bod yn teipio yn dda iawn wrth ddefnyddio un law yn unig! Mae'n rhaid iti gael llawer o hwyl ar y glan mor - dw i wedi clywed bod Awstralia yn cael traethau heirdd iawn!

Siarls, syniad diddorol - ein bod yn cywiro'n gilydd. Ond sut bydden ni'n gwybod pwy sy'n cywir hebddot? Wn i dy fod yn prysur iawn, ond dwyt ti'n gadael y wefan wych yma, wyt ti?

Posted by: gwenynen 13-Feb-2006, 02:49 PM
Antwn, beth ydy "heirdd"?

Posted by: austaff 13-Feb-2006, 06:09 PM
Gwenynen

Heirdd= beautiful fel ti
Fyddi di fy ffolant? biggrin.gif

Posted by: austaff 13-Feb-2006, 07:08 PM
Oes Antwn mae traethau hardd iawn yma, ond beryglus hefyd, os wyt ti’n ddim yn ofalus. Lawer o twristiaid toddi pob flwyddyn achos ei bod nhw'n ddim yn nofio ar y traethau ddiogel.

Gwenynen Mae Cwrs DD yn wych dw i’n wedi newydd dechrau y cwrs.


Posted by: Siarls 13-Feb-2006, 07:23 PM
Wow, mae pawb fan hon yn gwneud yn wych! Da iawn chi gyd.
Sori, fi'n methu aros am hir... jyst i ddweud nad oes treiglad ar ol 'm.

Ti'n gallu dweud "o fy nghwmpas" os ti eisiau, ond cofia, "o'm cwmpas" - does dim treiglad!!!

Na, dw i ddim yn mynd i adael, ond fi'n shwr y bydd yn brofiad cynorthwyol i chi gyd i gwyrio'ch gilydd.

Tata am y tro

Posted by: gwenynen 14-Feb-2006, 08:48 AM
Diolch, Austaff, Siarls.

Austaff, gwnes ti 'typo' digri! - "twristiaid toddi" Ti'n meddwl "boddi."

Posted by: austaff 14-Feb-2006, 06:49 PM
oops.gif
Diolch Gwenynen ie dw i’n meddwl boddi nid toddi. Er alli di toddi ar y traeth hefyd os eisteddaist ti yn y haul rhy hir.

Posted by: Siarls 15-Feb-2006, 07:42 AM
Cywiriad arall - mae'n angen "yn" gyda dim ond un ferf sef BOD.
Felly,
Wyt ti'n hoffi mynd (i'r pwll nofio e.e.)?

Ond,
Hoffet ti fynd (i'r pwll nofio e.e.)?

Allech chi weld y wahaniaeth rhwng y ddau?
Ydych chi'n gallu gweld y wahaniaeth rhwng y ddau?

Posted by: Antwn 15-Feb-2006, 06:21 PM
Gwen - ie, heirdd = hardd mewn ffurf lluosog -- ti'n gwybod sut fi'n hoffi Cymraeg "hotsy-totsy" .....heblaw hyn wink.gif

Mae rhai ansoddeiriau yn cael ffurf lluosog ond does neb sy'n ei defnyddio yn ol pob tebyg.....er alla i fod yn anghywir.

Posted by: Siarls 17-Feb-2006, 12:38 PM
Na ti'n iawn, Antwn - mae 'na ffurfiau lluosog a benywaidd ond cofiwch gyd - PEIDIWCH A^'U DEFNYDDIO NHW AR OL Y

Er enghraifft:
mae'r merched heirdd
mae'r merched yn hardd

Chydig pedantig yw e, ond mae'n well gennyf eu defnyddio nhw achos mae'n swnio'n hardd iawn yn Gymraeg.

Gyda llaw, yn ymdrin a^'r pwnc 'ma, wyt ti'n cofio dadl ar "pobl ifanc/ifainc", Gwen? 'Roeddwn i'n siarad a^'r un o fy narlithwyr a dywedodd ef mai "pobl ifainc" yw furff gywir. Dal, dw i ddim yn sicr fy mod i'n cytuno, ond falle mai dylanwad Eidaleg arnaf yw hi!! (yn Eidaleg, dywedir "gente giovane", nid "gente giovani" achos: gente (unigol) ond lluosog yw'r gair "giovani")

Posted by: Siarls 17-Feb-2006, 12:39 PM
Sori, fi'n golygu ar ol YN
nid ar ol y. Mae'n flin gennyf!

Posted by: gwenynen 17-Feb-2006, 02:01 PM
Dw i newydd ddysgu ansoddeiriau gyda ffurf benywaidd (llond ceg!) yn Welsh Rules gan H. Gruddudd. (Prynais i fe o'r diwedd.) Bydda i'n dysgu ansoddeiriau gyda ffurf lluosog nesa. Dw i ddim yn meddwl fy mod yn eu defnyddio'n berffaith ond dw i'n dysgu o leia.

Posted by: Siarls 17-Feb-2006, 06:16 PM
Wel, a d'eud y gwir - 'dyw ffurfiau benywaidd neu luosog yn hollol bwysig i'r Gymraeg Lafar. Felly, peidiwch a^'u gwneud nhw fel blaenoriaethau.

Posted by: Antwn 18-Feb-2006, 02:51 PM
Diolch Siarls.

Ymddiheuriadau am fy nistawrwydd, dw i wedi bod yn sal fel ci dros wythnos nawr - gobeithio y alla i ddod trwyddi o'r diwedd. Mae rhai gwelliant wedi bod yn gwneud o'r gwrthfiotig fy mod yn cymryd ond dw i wedi gorffen nawr. Fydda'n dweud wrthoch cymaint a hyn mae hiraeth arna fi droi'n ol i fod mewn iechyd da yn fuan.

Posted by: Siarls 19-Feb-2006, 04:51 AM
Na mae'n ffein - does dim angen ymddiheuro. A pheidiwch a^ dweud "chi" wrthyf - defnyddiwch y ffurf "ti".

Gobeithio dy fod di'n iawn, fi'n anfon fy nymuniadau gorau puraf atat ti.

Posted by: Antwn 19-Feb-2006, 01:30 PM
Diolch Siarls --- ro'n i'n siarad at pawb y pryd hwnnw er mod i ddim yn eglur iawn - felly ro'n i'n defnyddio "wrthoch". Dw i wedi defnyddio "ti" gyda thi o'r blaen.

Posted by: gwenynen 19-Feb-2006, 09:00 PM
Dw i'n gobeithio y byddi di'n gwella yn fuan, Antwn. Sut mae dy swydd newydd?

Posted by: gwenynen 19-Feb-2006, 09:13 PM
QUOTE (Siarls @ 17-Feb-2006, 01:38 PM)
Gyda llaw, yn ymdrin a^'r pwnc 'ma, wyt ti'n cofio dadl ar "pobl ifanc/ifainc", Gwen? 'Roeddwn i'n siarad a^'r un o fy narlithwyr a dywedodd ef mai "pobl ifainc" yw furff gywir. Dal, dw i ddim yn sicr fy mod i'n cytuno, ond falle mai dylanwad Eidaleg arnaf yw hi!! (yn Eidaleg, dywedir "gente giovane", nid "gente giovani" achos: gente (unigol) ond lluosog yw'r gair "giovani")

Edrycha hwn, Siarls:

"It is possible to put a plural adjective after 'pobl', and it is mutated - pobl ifanc/pobl ifainc." (tudalen 208, Welsh Rules, H. Gruffudd)

Mae'n ymdangos gallwch chi dweud un o'r ddau.

Posted by: austaff 20-Feb-2006, 05:45 PM
Sut mae Antwn Sut mae dy swydd newydd wyt ti'n rheolwr eto!!
gobeithio y byddi di'n gwella yn fuan thumbs_up.gif

Posted by: Antwn 21-Feb-2006, 05:48 PM
Diolch pawb - dw i wedi bod yn teimlo yn well ond y mae'n dal gyda fi beswch drwg.

Am waith? Mae'n iawn ....am y tro. Nag ydw Austaff - dim rheolwr ydw i eto. Dyw i'n moyn y swydd 'na, diolch. Fyddwn i'n teimlo fel gwarchodwr!

Posted by: gwenynen 25-Feb-2006, 02:28 PM
Shwmae bawb. Ydych chi'n gwybod "Pedwar peth" sy wedi bod yn boblogaidd ymhlith y blogwyr yn ddiweddar? Dw i'n teimlo baidd yn anesmwth ysgrifennu pethau personol i bawb ar y we ond beth am wneud hynny rhyngddon ni? Bydd hi'n hwyl! Gad i mi ddechrau. (Gwnes i newid cwestiynau tipyn.)

Pedwar swydd dw i wedi'r cael:
1. ysgrifenyddes i gwmni Denmarc
2. tywysyddes ar fws teisio
3. gweithwraig mewn siop Sushi
4. gweithwraig mewn ffatri fferyllol (Roedd y holl swydd yn Tokyo.)

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw:
1. Tokyo a Kobe, Japan
2. Kansas
3. Indiana
4. Oklahoma

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau:
1. gwahanol llefydd yn Japan
2. Hawaii
3. Washington D.C.
4. Aspen, Colorado

Pedwar hoff ffilm:
1. Night Ride Home
2. Sense and Sensibility
3. Hornblower
4. Mynydd Grug

Pedwar hoff bwyd:
1. bara
2. caws
3. ffrwythau
4. cawl (Dw i'n hoff o fwyd syml!)

Pedwar hoff lyfr:
1. Land of My Fathers gan Gwynfor Evans
2. Tân ar y Comin gan T. Llew Jones
3. Persuasion gan Jane Austen
4. You Don't Speak Welsh gan Sandi Thomas

Pedwar gwefan dw i'n ymweld â nhw bob dydd:
1. BBC
2. Cetic Radio Fforwm
3. Blogiadur
4. Maes-e

Pedwar lle hoffwn i fod rhyw ddiwrnod:
1. Abertawe (wrth gwrs!)
2. Aberystwyth
3. Caerdydd
4. Pen Llyn

Pwy ydy nesa?



Posted by: austaff 25-Feb-2006, 08:19 PM
Pedwar swydd dw i wedi'r cael:
1. Rheolwr Cyfrif
2. Prif Amcangyfrifyn
3. Rheolwr Adeilad
4. Syrfëwr Meintiau

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw:
1. Cwm Rhondda
2. LLanharan ar bwys Caerdydd
3. Briste
4.Brisbane Awstralia

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau:
1. Cymru
2. Lloegr ac yr Alban.
3 Awstralia Sydney ac the Great Barrier Reef
4.Zealand Newydd

Pedwar hoff ffilm:
1. How Green was my Valley
2. Under Milk Wood
3. Braveheart
4. A Beautiful Mind

Pedwar hoff bwyd:
1. Cyw iar
2. Stir Fry
3. ffrwythau
4. Chinese Bwyd

Pedwar hoff lyfr:
1. Rape of the Fair Country gan Alexander Cordell
2. Holl llyfr gan Wilbur Smith
3. Hol llyfr gan Patricia Cornwell
4. Holl llyfr gan James Paterson

Pedwar gwefan dw i'n ymweld â nhw bob dydd:
1. World Wide Welsh
2. Cetic Radio Fforwm
3. Ffowm Wales
4. Stock Reports

Pedwar lle hoffwn i fod rhyw ddiwrnod:
1. Japan
2. Egypt
3. Europe
4. Singapore

Pwy ydy nesa?

Posted by: Siarls 26-Feb-2006, 07:51 AM
Pedwar swydd dw i wedi'r cael:
1. Ariannwr mewn gorsaf betrol
2. Ariannwr mewn archfarchnad
3. Barmon
4. Cynorthwy-ydd mewn amgueddfa

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw:
1. Caeredin, yr Alban
2. Glasgow, yr Alban
3. Bro Gŵyr
4. Abertawe

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau:
1. Iwerddon
2. Paris
3. Barcelona
4. Rhufain

Pedwar hoff ffilm:
1. Pretty Woman
2. Shrek 2
3. First Wives' Club
4. Sister Act

Pedwar hoff bwyd:
1. Cragen-ddu
2. Pice bach
3. siocled
4. cocos

Pedwar hoff lyfr:
1. Homage to Catalonia gan George Orwell
2. Darnau gan Dylan Iorwerth
3. Xenophobe's Guide to the Welsh
4. 1984 gan George Orwell

Pedwar gwefan dw i'n ymweld â nhw bob dydd:
1. Celtic Radio
2. email.swan.ac.uk
3. hotmail.co.uk
4. google

Pedwar lle hoffwn i fod rhyw ddiwrnod:
1. Madrid
2. Efrog Newydd
3. Norwy
4. San Ffransisco

Posted by: gwenynen 27-Feb-2006, 08:45 AM
Ble yn Japan wyt t i eisiau mynd, Austaff? Wyt ti'n mynd i ddysgu Norwyeg(?) nesa, Siarls?

Wel, Antwn? Michael? Unrhywun arall?

Posted by: Siarls 27-Feb-2006, 08:49 AM
Norwyeg yw posibilrwydd! Mae un o fy ffrindiau nesa' yn byw ger Oslo. Hoffwn ymweld a^ hi. Mae Llychlyn yn ymddangos yn hardd iawn.

Er yr hoffwn ddysgu Catalaneg a Gwyddeleg.

Posted by: austaff 27-Feb-2006, 07:23 PM
Gwenynen
Hoffais i ymweld a “Mt Fuji” ac wrth cwrs “Nagasaki a Hiroshima” rhoi fi parch i’r bobl Japaneaidd pwy ar goll eu bywyd yn y rhyfel.

Hoffais i ymweld a Tokyo hefyd ac teithio ar y “Tren Bwled” ac y “Seremoni Te” gyda’r ferch geisha ayyb dw i’n hoffi popeth dwyreiniol

Posted by: austaff 27-Feb-2006, 07:49 PM
Gwenynen Beth hoffet ti’n weld yn Cymru?

Posted by: gwenynen 28-Feb-2006, 08:47 AM
Mae Fuji yn mynydd hardd tu hwnt. Gelli di ei weld e o'r ffenestri Shinkansen (Trên Bwled) os mae'r tywydd yn braf. Does dim Geishia mewn ceremoni te, Austaff!


Posted by: gwenynen 28-Feb-2006, 09:01 AM
QUOTE (austaff @ 27-Feb-2006, 08:49 PM)
Gwenynen Beth hoffet ti’n weld yn Cymru?

Môr! A Chapeli a thafarnau. Hoffwn i siarad â'r bobl yn hytrach na ymweld â llefydd enwog, a dweud y gwir. Wrth gwrs, hoffwn i ddysgu ar gwrs Gymraeg.

Posted by: Antwn 28-Feb-2006, 06:19 PM
Hoffwn weld Cymru, Sbaen deheuol unwaith eto, Prague, Stockholm....a Seland Newydd wedi gweld LOTR!! Dw i'n hoff o Sbaen, yn enwedig Granada.

Posted by: austaff 28-Feb-2006, 10:53 PM
QUOTE (gwenynen @ 28-Feb-2006, 09:47 AM)
Does dim Geishia mewn ceremoni te, Austaff!


0 na gwirion fi

Neb eisiau ymweld â Awstralia pam? sad.gif

Posted by: Siarls 01-Mar-2006, 07:45 AM
'Roedd New South Wales yn cael ei chynrychioli yn y Senedd y bore 'ma, Austaff!
A d'eud y gwir wrthyt - mae ofn arna i - mae lot o greaduron peryglus yn Awstralia!

Posted by: austaff 02-Mar-2006, 11:06 PM
QUOTE (Siarls @ 01-Mar-2006, 08:45 AM)
mae lot o greaduron peryglus yn Awstralia!

Ydy Siarls, rydyn ni’n greaduron peryglus ond dw i wedi fyw yma am 33 mlynedd ac dw i ddim wedi bod brathau erbyn y mogi eto.

Rydyn ni’n ladd corynod os mae nhw yn y tŷ. Rydyn ni’n osgoi nadredd ond dw i wedi weld unig chwech nadredd.

Rydyn ni wedi traethau hardd ac fforestau llaw ein trefi yn lan ac ffres dim sbwriel a haul am mwyaf o’r flwyddyn dim eira neu rhew ayyb.

Felly dod i Awstralia

Posted by: Siarls 03-Mar-2006, 06:46 AM
Gwnaf! Yn y dyfodol... pan allaf ei fforddio hi! Hoffwn weld y Ty Opera yn Sydney a'r Great Barrier Reef.
Sut bynnag, fi'n casau teithio hefyd - hedfan hir i Awstralia - byddai rhaid imi aros ar y ffordd am chydig - gweld LA, Singapore am rhai diwrnod!

Posted by: Antwn 04-Mar-2006, 02:54 PM
Fi'n casau LA gan fwyaf - dinas frwnt iawn ydyw, Hollywood yn enwedig, er fod y lle yn llawn o ynni - lle da i fyw os wyt ti'n moyn fod a^chyffroad cymaint. Ni allai neb fforddio aros yno Siarls onid allet ti aros gyda chyfeillion.

Hoffwn gymryd tren ar draws Awstralia Austaff, er mwyn imi gael gweld y tir yn llwyr. Hoffwn weld Melbourne a'r traethau hefyd. 'Roeddwn i'n edrych ar A Day In The Life of Australia mewn llyfrgell unwaith, ond dyna'r ystent fy nheithio yno hyd yn hyn. Math o daith oedd hi a defnyddio'r dychymyg fel gyfrwng.....gydag 'chydig o luniau i'w gyffroi.

Posted by: Siarls 08-Mar-2006, 05:36 AM
Wel, hoffwn weld lot o'r byd, ond a d'eud y gwir wrthych, mae eisiau arnaf weld gwledydd nad ydynt yn siarad Saesneg cyn gweld lleoedd fel America neu Awstralia. Fi'n dwlu ar ddiwylliant ac ieithoedd, ch'mod?

nad ydynt:that do not
mae eisiau arnaf:fi eisiau
ch'mod:you know?/make sense?

Posted by: gwenynen 08-Mar-2006, 09:27 AM
Syniad da, Siarls. Wedyn gelli di ymarfer siarad yr ieithoedd ti wedi dysgu.

Posted by: Antwn 08-Mar-2006, 07:23 PM
Mae'n swnio'n dda imi Siarls. Cawn ni fynd i gyd? Cymaint o ieithoedd - cyn lleied o amser.

Posted by: Antwn 13-Mar-2006, 05:47 PM
Hmmmm. Edrycha i 449 golygon ar drywydd 'ma sydd wedi bod yn y Gymraeg yn unig. Tybed pam nad ydyn nhw'n postio yma eu hunain. Os nad oes ganddynt rithyn o ddiddordeb pam ydyn nhw'n darllen - pwy bynnag ydynt? Chwilfrydig.

Posted by: gwenynen 14-Mar-2006, 09:22 AM
QUOTE (Antwn @ 13-Mar-2006, 06:47 PM)
pwy bynnag ydynt?

Di-ddysgwyr sy'n chwilfrydig, efallai.

Posted by: Antwn 14-Mar-2006, 05:24 PM
Efallai Gwenynen. Mae 'na llawer iawn o bobl chwilfrydig 'te, yn enwedig os byddant yn ei chael hi'n anodd i ddarllen y postiau. Rhaid bod y sawl sy'n lechu yma ddi-ddechreuwyr hefyd dw i'n credu ond 'does neb sy'n wybod dim amdanynt.

Posted by: gwenynen 29-Mar-2006, 09:01 AM
Ces i sgwrs yn Gymraeg am y tro cynta yn fy mreuddwyd neithiwr! Cwrddais i ag Antwn ond dechreon ni siarad Saesneg. Wedyn dywedais i, "Rhaid i ni siarad Cymraeg." A rhywbeth mwy, ond anghofiais i. Nid sgwrs, a dweud y gwir oherwydd dim ond fi oedd yn siarad. 'It would've been' rhy anodd creu sgwrs Antwn. Dyna pam, dw i'n siwr! tongue.gif

Posted by: Antwn 29-Mar-2006, 07:21 PM
Wel Gwen, yr oedd cymaint o bobl fy mod wedi gorfod cyfarfod mewn breuddwydion ar hyd y nos yr oeddwn i wedi blino iawn - (peth od mewn breuddwyd) erbyn ein cyfarfod yr oedd gennyf ddi-ddweud. Pe hoffet ti gadw oed a^ fi mewn breuddwyd dyfodol, rhaid iti wneud apwyntiad a^fi ymlaen llaw wink.gif
Fe fyddwn i'n dod a^'r Geiriadur Mawr.

Posted by: Antwn 31-Mar-2006, 04:55 PM
Mae'n ddrwg da fi Gwen, nid oedd fy neges diwethaf yn gwneud ystyr - ro'n i'n flinedig iawn - fydda'n sgwennu rhywbeth eglur nes ymlaen.

Posted by: gwenynen 31-Mar-2006, 08:02 PM
O, ro'n i'n deall dy neges. Ond bydd rhaid i ti ysgrifennu rhywbeth beth bannag oherwydd mae hi wedi bod braidd yn dawel fan hyn y diddiau ma.

Posted by: Siarls 13-Apr-2006, 09:32 AM
Helo ichi gyd. Fi nôl o Lundain nawr - 'na ddinas ffantastig. Er nad wi'n shwr os bydda i'n gallu byw yno. Es i i bar gwin hyfryd ger Embankment. Fi wedi cael digon o feddwon Cymraeg! Yng Nhgymru, mae lot o bobl yn mynd mas i wneud dim ond meddwi, ond yn Llundain, roedden ni'n yfed gwin er pleser.

Do, fi wedi gweld y fideo byr, Gwen. Mae lot o hiwmor ynddo! Mae'n anodd i actio a chadw ei amynedd o flaen lens camera! Mae dy fab 'di neud yn dda - 'dyw e ddim yn edrych yn nerfus o gwbl. Y bore hwn, o'n i yn Llundain ac odd rhaid imi siarad o flaen camera - anodd iawn! O'n i'n meddwl mod i'n edrych yn nerfus, ond yn ôl y ferch gamera, o'n i'n edrych yn ffein - dim nerfau!

er nad wi'n = though I do not
meddwon = drunks
meddwi = to get drunk
er pleser = for pleasure
do = yes I have
amynedd = patience
ac odd = ac 'roedd
ffein = fine
nerfau = nerves

Posted by: gwenynen 13-Apr-2006, 01:56 PM
Pam ar y ddaear est ti i Lundain, Siarls? Pa "photo shoot"? Ar gyfer BBC neu beth?

Posted by: Siarls 13-Apr-2006, 02:24 PM
Ah, wel, model y dwi, Gwen! Nid ar gyfer y BBC, ond fi'n ystyried gyrfa gyda nhw.

Posted by: gwenynen 14-Apr-2006, 08:03 AM
Ar gyfer pwy, te? Gawn ni weld dy fideo? Wnes ti hynny'n Saesneg neu'n Gymraeg?

Posted by: Siarls 14-Apr-2006, 10:38 AM
Pwy bynnag sydd fy eisiau arno. Drwy'r Saesneg achos ar hyn o bryd, does dim diddordeb gan S4C neu BBC Cymru yndda i. Er mod i'n gobeithio gweithio gyda nhw cyn bo hir. Bydda i'n dangos ichi fy shoot pan fydd y lluniau'n cael eu prosesi yr wythnos nesa'.

Posted by: Antwn 14-Apr-2006, 04:21 PM
Ie Siarls - os gweli'n dda - dangoswch inni

Posted by: gwenynen 14-Apr-2006, 07:57 PM
Siarls, ydy'r 'photo shoot' ar gyfer hysbyseb neu phethau felly?

Posted by: austaff 14-Apr-2006, 10:08 PM
Model Siarls whoo hooo Ro’n ni’n model unwaith dw i’n torri y camera!!! laugh.gif

Posted by: Siarls 15-Apr-2006, 03:42 PM
Ie, bydd hysbyseb, Gwen. Dim byd mawr, cofia! Ni fydda i ar billboards neu ar y teledu. Mewn catalog neu rywbeth shwr o fod.
Ok, digon amdana i!
Shwd dych chi gyd? Beth ydych chi'n mynd i wneud ar gyfer y Pasg? Yn anffodus, bydda i'n gweithio bob dydd. Ac mae rhaid imi ddechrau adolygu ac asesiadau ar gyfer coleg!!!

Posted by: austaff 15-Apr-2006, 08:49 PM
Pasg hapus i gyd

Gawn ni y Pasg tawel yma Siarls, ag mae fy wyrion wedi mynd ar wyliau dros y Pasg gyda fy mab. Ond awn ni BBQ gyda ffrindiau yfory, gawn ni amser dda fwyta ac yfed
Gobeithio byddwch chi’n llawer o wyau Pas rolleyes.gif

Posted by: austaff 15-Apr-2006, 08:50 PM
Pasg hapus i gyd

Gawn ni y Pasg tawel yma Siarls, ag mae fy wyrion wedi mynd ar wyliau dros y Pasg gyda fy mab. Ond awn ni BBQ gyda ffrindiau yfory, gawn ni amser dda fwyta ac yfed
Gobeithio byddwch chi’n llawer o wyau Pasg rolleyes.gif

Posted by: gwenynen 16-Apr-2006, 01:39 PM
Pasg bendithio, bawb. Aeth i i'r capel gyda'r teulu. Cafodd oedfa arbennig y Pasg ei gynnal. Cymaint o ganu. Aeth dri o'm plant i gasglu wyau'r Pasg (plastig) ddoe. Roedd dwy fil o wyau mewn parc!

Posted by: Antwn 18-Apr-2006, 06:07 PM
Treulias ddydd Sul diwethaf artre. Roedd y diwrnod yn wlyb iawn, felly darllenais llyfrau ac edrychais ar DVD neu ddau. Ro'n i'n arfalu am ymlaciad.

Posted by: austaff 18-Apr-2006, 07:17 PM
Helo pawb

Ro’n i eistedd yn y ardd neithiwr pan welais i seren wib fflachio trwy’r wybren mae’n hardd iawn, felly dw i’n wneud dymuniad taw gallwn ni’n siarad Gymraeg yn rhugl

Posted by: gwenynen 18-Apr-2006, 07:36 PM
Austaff, byddwn i'n dymuno'r un peth!

Posted by: Antwn 19-Apr-2006, 06:45 PM
Bendigedig Austaff! Dymuniad ar ddod yw e - dyn ni'n gwella o hyd. Gallen ni gwrdd a^ Gwenynen mewn ei breuddwydion rhywbryd a sgwrsio.... wink.gif

Posted by: Siarls 24-Apr-2006, 10:26 AM
Byddwn i'n bod wedi dymuno siarad Gwyddeleg yn rhugl!
I would have

Posted by: gwenynen 24-Apr-2006, 02:16 PM
Siarls, ellwch chi ddweud "Byddwn i fod wedi dymuno...." hefyd?

Posted by: gwenynen 03-May-2006, 08:01 AM
Dyma fi. Ateba i dy gwestiwn yn 'Welsh websites', Siarls.

Dw i'n siarad Japaneg â'r plant yn unig fel arfer. Dw i wedi anghofio llawer o eiriau oherwydd dydyn ni ddim sôn am bynciau amrywiol. Mae fy ngwr eisiau ymarfer siarad Japaneg â fi ond ni'n siarad Saesneg drosto i. Fel arall byddwn i'n anghofio Saesneg! (Mae digon o gyfleoedd siarad Japaneg da fe yn y brifysgol achos bod llawer o fyfyrwyr Japaneaidd yno.)

Powered by Invision Power Board (https://www.invisionboard.com)
© Invision Power Services (https://www.invisionpower.com)