Welcome Guest ( Log In | Register )










Reply to this topicStart new topicStart Poll

> Tributes Paid To Plaid's Pioneer, Gwynfor Evans Dies
WizardofOwls 
Posted: 26-Apr-2005, 07:37 AM
Quote Post

Member is Offline





Wanderer and Vagabond
********

Group: Celtic Nation
Posts: 5,142
Joined: 12-Mar-2004
ZodiacVine

Realm: Wytheville, Virginia

male





Hello there!

I posted this over in Celtic Languages in the News a couple of days ago, but I'm not sure if anyone saw it over there so I thought I'd post it here too. It is written in English and Welsh, alternating between the two.

Enjoy!

Tributes paid to Plaid's pioneer (Welsh and English alternating) (Welsh)

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/4471679.stm

"Wales, living her own life with dignity, will take her due share in creating a just, stable and peaceful international order. Her greatest contribution to human welfare and civilisation, however, will be to create in the national homeland a fair society, a free society." - Gwynfor Evans, Wales Can Win, (Llandybie,1973). Plaid pioneer Gwynfor Evans dies

Tributes are being paid to Gwynfor Evans, one of the most prominent Welsh politicians of the 20th Century, who has died aged 92. He became Plaid Cymru's first MP in the 1966 Carmarthen by-election and was president of his party for 36 years.

He threatened to starve himself in the cause of Welsh language television, leading to the foundation of S4C.
=======================================================

Cymru'n cofio Gwynfor
Eich teyrngedau i Gwynfor Evans
Mae Cymru'n talu teyrnged i Gwynfor Evans fu farw yn 92 oed wedi oes o ymroddiad i'r iaith, ei wlad a gwleidyddiaeth.

Bu farw'r dyn ddaeth yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn ei gartref ddydd Iau.

Daeth i amlygrwydd fel llywydd Plaid Cymru yn y 1940au, swydd a ddaliodd tan 1981.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yng Nghapel Seion, Aberystwyth ddydd Mercher.
Ond ei lwyddiant mwyaf efallai oedd ei fuddugoliaeth yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966.

Roedd ei fuddugoliaeth ymhlith y rhai mwyaf syfrdanol erioed yn hanes gwleidyddiaeth Prydain a chafodd sylw gwasg y byd.

Bu'n amlwg iawn yn yr ymgyrch am sianel deledu Gymraeg a bygythiodd newynu hyd at farwolaeth os nad oedd Llywodraeth Margaret Thatcher yn sefydlu sianel.

Roedd yn awdur ac ysgrifennodd yn helaeth ar Hanes Cymru.

'Rhyfeddol'

Cafodd ei eni yn Y Barri ar Fedi 1 1912 ond bu'n byw am ran fwya ei fywyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Bencarreg.

Yn ddyn priod,roedd ganddo saith o blant ac wyrion, wyresau a gor-wyrion.

Bu farw yn ei gartref yn Nalar Wen yng nghwmni ei deulu ar ôl gwaeledd hir.

"Roedd yn dal i'n caru ni drwy'r cyfan, yn ein cynnal ac yn gefn i ni," meddai un o'i feibion, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.

"Roedd â chariad at ei genedl, y diwylliant a'r iaith, wrth gwrs.

"Ac roedd ganddo gariad at gyd-ddyn. Roedd pobl yn dod o bedwar ban i Dalar Wen ac yn cael croeso bob amser ac roedd yn dwlu arnyn nhw.

"Ond, yn bennaf, yr oedd ei gariad at ei Arglwydd."

Newid map Cymru

Dywedodd Rhys Evans, newyddiadurwr a chofiannydd Gwynfor Evans, fod ei gyfraniad yn "gyfangwbwl ryfeddol a'r cyfraniad yn rhychwantu saith degawd o weithgarwch ym mywyd cyhoeddus Cymru a Phrydain.


Cofio'r 'cawr gwleidyddol' "Roedd ac mae'n ffigwr sy'n haeddu cael ei gyfri fel rhywun wnaeth
drawsnewid map gwleidyddol Cymru a Phrydain.

"Fe wnaeth drawsnewid Plaid Cymru o fod yn sect fechan iawn o bobol i fod yr hyn yw hi heddiw, plaid sy'n cael ei chyfri fel plaid yn gyfansoddiadol a phlaid sy'n cael ei pharchu.

"Yn ail, roedd yn hollbwysig o safbwynt y mudiad cenedlaethol. Fe oedd wrth wraidd nifer o'r ymdrechion dros gynifer o flynyddoedd.
"Os edrychwch ar agweddau fel darlledu cyhoeddus, y brifysgol, Cymreigio'r cynghorau, fe welwch ôl gwaith a dylanwad Gwynfor
Evans."

Dywedodd ei gyn-asiant Peter Hughes Griffiths iddo newid gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Gweithiodd gyda Mr Evans yn y saithdegau a thrwy gipio sedd Caerfyrddin, meddai, roedd wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli.

"Sicrhaodd ei safiad personol dewr sianel Gymraeg."

Dywedodd iddo hyd y diwedd gynnal diddordeb mawr ym mhob agwedd ar wleidyddiaeth Cymru.
==================================================================

Politicians pay tribute to Plaid statesman

The veteran Welsh language campaigner and former president of Plaid Cymru Gwynfor Evans has died aged 92. Mr Evans changed the face of British politics when he became Plaid's
first MP in the 1966 Carmarthen by-election.

Fourteen years later he threatened to starve himself to death in the cause of Welsh language television, leading to the foundation of S4C.

Plaid president Dafydd Iwan said Wales might not even have been counted as a nation without him.

Mr Evans died on Thursday morning after having been ill for some time.

Mr Iwan said he would remain his party's spiritual leader.

He added: "It is impossible to underestimate Gwynfor's unique contribution to building Plaid Cymru into the party it is today."

First Minister Rhodri Morgan said Mr Evans had made a massive contribution to Welsh public life.

Gwynfor Evans was Plaid Cymru president for 36 years

Mr Morgan said while Mr Evans' relationships with Labour MPs "were not always positive," he was a "good and gentlemanly figure".

An adult learner of Welsh, Mr Evans was a teenager when Plaid Cymru was established in 1925, but he emerged as the party's president 20 years later - a position he held for 36 years.
Gwynfor Evans was born in Barry, south Wales, in 1912, but spent most of his life in Llangadog, Carmarthenshire.

Educated at the University of Wales, Aberystwyth, and then St John's College Oxford, he established a branch of Plaid Cymru while he was a student.

Party triumphs

A committed Christian and pacifist, he refused to join the armed forces during World War II and was summoned to appear before a tribunal. He was unconditionally dismissed.

He was elected Plaid president in 1945 and would be at the centre of many of the party's triumphs and most hard-fought campaigns in the decades to come.


Mr Evans became the first Plaid voice in the Commons in 1966

In the 1950s, he fought but failed to establish a parliament for Wales. There was further defeat in his campaign to prevent Liverpool City Council flooding the Welsh-speaking Tryweryn valley near Bala to create a reservoir.

But the setbacks preceded a huge leap forward for his party and for the cause of nationalism in Wales.

In July 1966, he won the by-election in Carmarthen, called following the death of Labour MP, Dame Megan Lloyd George, the daughter of former Prime Minister David Lloyd George.

His victory was among the most unexpected in British political history, as Plaid Cymru won its first seat in Westminster.

Hundreds of supporters travelled to London to see him enter Parliament for the first time.

Speaking in the days following his election, he likened his position as a lone nationalist voice in the House of Commons to that of the Labour Party's first MP - Keir Hardie - more than 60 years earlier.

The Plaid president's starvation threat helped lead to S4C

Mr Evans said: "Keir Hardie was one man and he started something pretty big."

Three years later, Mr Evans lost his seat to Labour, but he returned to Westminster in 1974, this time with two more Plaid MPs - Dafydd Elis Thomas - now Lord Elis Thomas and presiding officer of the Welsh assembly - and Dafydd Wigley.

Hunger strike
But in 1979, the year Margaret Thatcher came to power, he lost his seat and although he did not stand in an election again he kept himself busy in Welsh politics.

Having campaigned during the 1970s for the establishment of a Welsh language fourth television channel, he began a hunger strike in 1980, saying he would fast to death if the then Conservative
government would not agree.

Against a background of other protests, the government gave in and S4C began broadcasting in 1982.

S4C's Chair Elan Closs Stephens said: "Gwynfor Evans realised the power of television to influence and change culture and language and he was determined that Welsh would have a proper place in the medium.

"He drew the world's attention with his dramatic stand."

The history of Wales was very important to Mr Evans, not only as a politician, but also as a Christian.

He wrote a number of books in both Welsh and English about Wales, his latest in 2001, Cymru o Hud in Welsh and Eternal Wales in English.

He also penned his autobiography, Bywyd Cymro (Life of a Welshman) in 1982 and in 1996, an English version, For the Sake of Wales.

By 1997, he had lived to see his dream being fulfilled, with a Yes vote in a referendum to set up of a Welsh assembly.

Fittingly, it all hinged on the final declaration in Carmarthen, which returned a narrow vote in favour.

Although he had graduated and trained to be a solicitor he worked as a commercial gardener in Llangadog until his retirement.

Mr Evans was married and had seven children, grand-children and great-grand-children.

=====================================================
Cofio'r 'cawr gwleidyddol'

Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru Mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru wedi talu teyrngedau i Gwynfor Evans a fu farw ddydd Iau yn 92 oed.

Dr Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan enillodd is-etholiad Caerfyrddin yn 1966.
Dyma grynodeb o'r teyrngedau i un o ffigyrau amlycaf gwleidyddiaeth Cymru.

Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru:

"Mae Plaid Cymru wedi tristáu heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae'r newydd wedi ei dderbyn â thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi ei ysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn
fod yn falch ohoni.

"I aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn hen ac ifanc, roedd yn arweinydd ysbrydol a bydd yn parhau i fod. Mae'n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i'r blaid y mae hi heddiw.

"Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe drodd hi'n rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966.

"Gwynfor oedd cynhaliaeth y Blaid yn ystod blynyddoedd llwm y 50au a'r 60au. Mae'n wir i ddweud heb Gwynfor wrth y llyw na fyddai Plaid Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau ac ymgyrchoedd yn y blynyddoedd diweddar.

"Mae ei ddylanwad ymhell y tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae'n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.

"Roedd yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol ac yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ôlei ddoethineb a'i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae'n cydymdeimlad ni oll gyda'i wraig Rhiannon a'i deulu."

Dafydd Wigley, cyn-lywydd Plaid Cymru:

"Does gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi'r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed yng Nghymru a Chymro mwya'r ugeinfed ganrif.


Dafydd Wigley: "Cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed" "Dwi'n meddwl fod pobl mewn pleidiau gwleidyddol eraill oedd wedi brwydro efallai yn ei erbyn wedi dod i'w barchu oherwydd y modd yr oedd yn sefyll yn gadarn dros y blynyddoedd. Faint bynnag o erlid oedd arno fo, roedd yn sefyll dros ei egwyddorion a doedd o byth yn chwerwi.

"Mi ddaru fyw i weld y gweddnewidiad yn rhagolygon y genedl ac, yn sicr, mae yna ddiolch aruthrol ganddon ni oll o'r genhedlaeth sydd wedi byw trwy hyn iddo fo am ei arweiniad.

"Roedd yn un rhyfeddol i gydweithio ag o yn y Senedd - yn weithgar tu hwnt ... yn ysgrifennu llythyrau di-ri yn ei lawysgrif ei hun tan oriau hwyr y nos a'r ffordd roedd yn dehongli beth oedd yn digwydd yn wleidyddol.

"Ac roedd bob amser yn mynnu fod rhaid edrych ar bethau o berspectif cenedlaethol Cymreig.

"Dwi'n credu ei bod yn deg dweud fod ei ymrwymiad i heddwch o leiaf cyn gryfed os nad yn gryfach na'i genedlaetholdeb. Roedd hynny'n egwyddor sylfaenol iddo ac roedd yn gwbwl ddiwyro ar hynny. "

Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan (datganiad ar ei ran):

"O glywed y newyddion mae'r Prif Weinidog wedi mynegi ei dristwch ac wedi disgrifio Mr Evans fel ffigwr da a bonheddig.

"Nododd ei fod wedi mynd i'r un coleg yn Rhydychen a gall gofio trafodaeth ddiddorol yn ymwneud â'i gysylltiadau teuluol â theulu Dan Evans yn y Barri.

"Aeth ymlaen drwy nodi er nad oedd ei berthynas ag ASau Llafur bob amser yn gadarnhaol, does dim modd gwadu ei gyfraniad anferth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig wrth godi proffil Cymru a materion Cymreig a thrwy ei yrfa hir yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain."

Yr Arglwydd Roberts o Gonwy (cyn-AS Ceidwadol):

Wrth sôn am ei fygythiad i newynu i farwolaeth dywedodd: "Roedden ni (y Blaid Geidwadol) wedi gwneud addewid yn 1979 y byddai sianel ar wahân ac, yn anffodus, doedd gwireddu'r addewid ddim yn dibynnu arnon ni yn y Swyddfa Gymreig ond ar y Swyddfa Gartref ac mi ddaru nhw fradychu'r addewid.


Yr Arglwydd Roberts o Gonwy: 'Cyfraniad sylweddol dros ben'

"Fe ddaeth Gwynfor, drwy ei fygythiad i newynu, â ni yn ôl at yr addewid gwreiddiol hwnnw.

"Dwi'n credu fod yr hyn wnaeth o yn sicr wedi dylanwadu ar y llywodraeth yn y pen draw ac wedi eu hargyhoeddi nad oedd yn ddoeth iddyn nhw beidio â chyflawni eu haddewid.

"Felly mae'r cyfraniad wedi bod yn un sylweddol dros ben."

Yr Arglwydd Roberts o Landudno:

"Dwi'n cofio Gwynfor gydag anwyldeb mawr. Roedd o'n un o'n harwyr ni ac ymhlith cewri'r ganrif yma yng Nghymru.

"Dwi'n ei gofio fel bonheddwr, bob amser yn bwyllog a chadarn, ac roedd gen i edmygedd mawr ohono, nid yn unig fel Llywydd Plaid Cymru ond Llywydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru...roedd yn ddyn arbennig iawn."
"Mi fuaswn i'n meddwl ei fod wedi cadw Plaid Cymru yng nghanol y frwydr. Os oes ganddoch chi arweinydd cadarn, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth ac roedd yn gawr o ddyn yn wleidyddol."

Yr Arglwydd Elystan Morgan o'r Blaid Lafur ond a fu hefyd yn aelod o Blaid Cymru:

Mae pennod fawr yn hanes Cymru wedi dod i ben gyda'i farwolaeth. Mae ei gyfraniad dwi'n credu wedi bod yn aruthrol o fawr.

"Does na ddim pobl fel Gwynfor Evans ar ôl yng ngwleidyddiaeth heddiw."

Prif Weithredwr S4C, Huw Jones:

"Dwi'n meddwl y byddwn i'n cytuno na fyddai yna S4C heb gyfraniad Gwynfor. Rhoddodd ffocws cwbl unigryw drwy ei safbwynt ddramatig, ffocws oedd yn denu sylw'r byd i gyd a gorfodi pawb arall i ystyried dilysrwydd y penderfyniad yr oedden nhw wedi ei wneud. Roedd ei
gyfraniad yn gwbl allweddol.

"Mae Gwynfor Evans yn mynd i gael ei ystyried yn un o ffigyrau mawr yr 20fed ganrif yng Nghymru.

"O ran ei safiad yng nghyd-destun S4C, roedd yr hyn yr oedd yn bygwth ei wneud yn cael ei gymryd o ddifri oherwydd ei onestrwydd a'i ddidwylledd oedd wedi cael ei fynegi yn ystod ei yrfa fel gwleidydd. Roedd pawb yn ei adnabod a'i barchu.

"Dwi'n meddwl y bydd pawb yn S4C a'r diwydiant yn teimlo yn wylaidd oherwydd y cyfle i ddarparu gwasanaeth sydd wedi deillio o'r hyn a wnaeth Gwynfor.

"Ond mae ei ddylanwad yn mynd ymhellach gyda'r sianel ac yn enghraifft y mae gwledydd eraill wedi ei mabwysiadu yn eu tro. Mae Cymru wedi arwain yn hyn o beth."

Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Yn sicr roedd ei gyfraniad o ran ymgyrch i sefydlu'r sianel yn aruthrol o bwysig, ymgyrch ochr yn ochr ag un Cymdeithas yr Iaith.

"Mae cael sianel deledu yn rhoi cyfrwng modern i iaith ac wedi creu nifer o siaradwyr ac yn dal i gynnal y siaradwyr hynny boed yn bobl ifanc, yn rhiant neu yn henoed erbyn heddiw."

Dr Richard Wyn Jones, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth:

"Mae o wedi bod yn gyfangwbl ganolog i hanes cenedlaetholdeb yr 20fed ganrif. Roedd o'n flaenllaw yng nghynadleddau'r blaid rhwng 1937 a 1997. Does 'na ddim llawer o ffigyrau gwleidyddol wedi cael effaith dros gymaint o amser.

Richard Wyn Jones: Bu Gwynfor Evans yn weithgar am 60 mlynedd "Fe wnaeth o ddominyddu ei blaid bron iawn yn gyfangwbl am gyfnod pur faith. Roedd o'n ysgwyddo'r baich bron iawn yn gyfangwbl ei hun. Fo oedd yr wyneb cyhoeddus a fo oedd y blaid i raddau helaeth iawn. Rhoddodd hygrededd i'r blaid ac roedd ei ymroddiad i'w ryfeddu.

"Dyma hanesyn byr sy'n dweud llawer am faint y dyn. Fe es i'w holi ryw dair blynedd yn ôl ac roedd ei iechyd wedi torri. Wrth i mi gael y sgwrs fe ddaru'r ffôn ganu ac wedyn mi wnes I fusnesu ac roedd o'n sôn am docynnau raffl. Fe ges i wybod mai fo oedd ysgrifennydd cangen y pentre lleol o Blaid Cymru.

"Mae hyn yn dweud llawer - yn arwr i filoedd yng Nghymru, yn uchel ei barch, llywydd y blaid, ffigwr amlwg iawn, ac ar ddiwedd ei oes yn gwneud y gwaith mwya di-ddiolch, ysgrifennydd cangen leol.

"Faint o wleidyddion amlwg eraill a fyddai'n fodlon gwneud hyn? Roedd ei ymroddiad i'w gredoau yn gyfangwbl anhygoel ac yn beth prin iawn."

Emyr Price, hanesydd:

"Yr hyn oedd yn ei yrru oedd dau beth, ei heddychiaeth a'i gariad. Dywedodd o wrtha i ei fod o wedi syrthio mewn cariad efo Cymru yn y 1930au.

"Roedd elfennau yn ei gymeriad oedd yn amlwg iawn - y dycnwch, dyfalbarhad a'r ystyfnigrwydd weithiau.

"Ac roedd ganddo stamina gwleidyddol anhygoel. Cafodd nifer fawr iawn o broblemau yn ystod ei arweinyddiaeth, siomedigaethau lu ond daliodd ati.

"Efallai bod ei gasineb at y Blaid Lafur wedi ei atal ar rai adegau rhag estyn allan at y bobl oedd yn pleidleisio at Lafur.


Emyr Price "Llwyddodd Gwynfor i newid meddwl Margaret Thatcher" "Roedd ei gyfraniad i siâp Plaid Cymru yn ddi-os. Yn y 1920au a 1930au doedd y blaid yn ddim byd o dan Saunders Lewis ac roedd yn blaid adain-dde Gatholig.

"Gwynfor arweiniodd ei blaid i gyfeiriad democrataidd modern a'i gwneud hi'n gredadwy fel mudiad gwthio.

"I Gwynfor, roedd 1979 yn un o siomedigaethau mwya ei fywyd ac roedd yn teimlo i'r byw nad oedd rhan o'r Blaid Lafur wedi cadw addewid i Gymru dros ddatganoli.

"Roedd yn ddyn o syniadau heddychol, ar y chwith, efallai hyd yn oed yn fwy o heddychwr nac yn genedlaetholwr.

"Fe wnaeth waith hynod iawn yn y 1930au, 1940au a'r 1950au dros heddychiaeth, rhywbeth amhoblogaidd iawn yn ystod y rhyfel.

"Roedd pobl yn ei gysylltu â Phlaid Cymru ond daliodd i gredu yn ei heddychiaeth. Bu yn Fietnam yn y 1960au ac yn flaenllaw iawn efo CND yn y 1970au a'r 1980au. Roedd ei heddychiaeth yn ei nodweddu ac yn un o'r elfennau oedd yn ei wneud y dyn yr oedd o.

"Roedd Gwynfor yn allweddol i sefydlu S4C. Pleidiau gwleidyddol eraill oedd yn gefnogol i'r sianel ac fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyfraniad cwbl amhrisiadwy.

"Fe ddywedodd Mrs Thatcher: "The lady is not for turning" ond fe lwyddodd Gwynfor Evans I sicrhau fod Mrs Thatcher a'i llywodraeth hyd yn oed yn newid eu barn.

"Roedd y penderfyniad i lwgu yn eithriadol o anodd i Gristion fel Gwynfor. Does dim dwywaith - yn y diwedd fyddai S4C ddim wedi cael ei sefydlu oni bai am safbwynt di-ildio Gwynfor Evans.

"Roedd ganddo olwg arbennig ar hanes Cymru a chyhoeddodd nifer fawr o lyfrau ar hanes Cymru a rhoi gerbron y cyhoedd lyfrau cofiadwy, yn arbennig Aros Mae."

Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch am fywyd Gwynfor Evans - am ei arweiniad a'i gefnogaeth bob amser i Gymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Rhoi diolch yw'r unig air a gweithred sy'n gweddu ar hyn o bryd."

Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Barry Morgan

"Cyfrannodd Gwynfor Evans yn sylweddol iawn at lunio bywyd gwleidyddol, crefyddol a sifil Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.

"Y sylfaen i'w fywyd cyfan oedd ei ymrwymiad, nid yn unig i heddychiaeth ond hefyd, yn anad dim arall, i Efengyl Crist.

"Bu'n byw yr egwyddorion hynny yn ei fywyd bob dydd ac yn arbennig felly yn ei ymwneud â'i gyd ddynion.

"Bu ei gyfraniad i fywyd sifil Cymru yn aruthrol. Bu'n allweddol yn sefydlu S4C a brwydrodd yn hir am Senedd i Gymru nid dim ond Cynulliad.

"Fel yr awgryma teitl un o'i lyfrau, ni roddodd Gwynfor y gorau erioed i "Frwydro dros Gymru", ond roedd wastad yn ŵr bonheddig wrth frwydro ac yn gyson gwrtais, yn ogystal â bod yn benderfynol - nodweddion sydd weithiau'n llai nag amlwg yn nhirwedd gwleidyddol y presennol."
Hefin Jones, Llywydd Undeb Annibynwyr Cymru:

"Fe wnaeth o'n harwain ni fel Annibynwyr i sylweddoli fod Cristnogaeth a chenedlaetholdeb yn cerdded gyda'i gilydd.

"Dywedodd dro ar ôl tro bod yr iaith Gymraeg a'r genedl Gymreig wedi datblygu ar yr un pryd ag yr oedd Cristnogaeth yn ennill tir yng ngwledydd Prydain.

"Braint o law Duw yw caru cenedl."

==============================================

Plaid pioneer Gwynfor Evans dies
Politicians pay tribute to Plaid statesman
Former Labour leader Michael Foot has added to the tributes to Gwynfor Evans, Plaid Cymru's first MP, as details of his funeral were announced. The veteran Welsh language campaigner and former Plaid Cymru president died on Thursday aged 92.

Mr Foot, 91, said: "He was the best ever advocate for decent Welsh nationalism. He put the case better than anyone I knew".

The funeral will be on Wednesday at Seion Chapel, Aberystwyth at 1330 BST.

Mr Foot, who was MP for Ebbw Vale and then Blaenau Gwent from 1960-92, campaigned unsuccessfully with Mr Evans for Welsh devolution in 1979.

He said: "I was so sorry that we were unable to carry through the devolution vote in 1979 but at the time I was given consolation by his great Welsh humour.

"I'm so sorry he's no longer with us".

Michael Foot was a political contemporary of Mr Evans

Politicians from all parties in Wales were quick to pay tribute to Mr Evans following his death on Thursday morning after a long illness.

His passing was also marked in the Scottish Parliament, on the same day as the Gaelic Language Bill was being passed, which gave Scots Gaelic "equal respect" with English.

Scottish National Party MSP Fiona Hyslop said he had played a "vital role" in campaigning for Gaelic.

The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, praised Mr Evans, a committed Christian and pacifist, for his "significant contribution" to Welsh life.
"Gwynfor Evans did as much as anyone to shape the political, religious and civil life of Wales during the twentieth century," he said.

"Underpinning his whole life was a commitment not just to pacifism but also, above all else, to the cause of Christ's gospel.

Gwynfor Evans was Plaid Cymru president for 36 years

"He lived out those principles in his everyday life and particularly in his dealings with his fellow humans.

"As the title of one his books suggests, Gwynfor Evans never stopped 'Fighting for Wales,' but his fight was always gentlemanly and courteous, but determined - traits which are not always evident in today's political landscape."

Welsh historian Lord Kenneth O Morgan called Mr Evans a man of "great significance, great dignity, great distinction".

"He was a cultural nationalist primarily. He began by affirming the Welsh culture and Welsh language... but he was able to broaden its appeal," he added.

Former Plaid Cymru MP and AM, Cynog Dafis, said of his former party president: "I believed very strongly there was no use in making enemies.

"What you had to do was tread the common ground between you and the person you were addressing - and the common ground was Wales.

"What Gwynfor did was lead the party through the transition from being a smaller cultural group to being a political party, and he had the moral authority to do that.

"He was determined that Plaid Cymru must embrace the whole of the nation [including English-speaking Wales]."

Gwynfor Evans was born in Barry, south Wales, in 1912, but spent most of his life in Llangadog, Carmarthenshire.

Educated at the University of Wales, Aberystwyth, and then St John's College Oxford, he established a branch of Plaid Cymru while he was a student.

Hunger strike

In the 1950s, he fought but failed to establish a parliament for Wales. There was further defeat in his campaign to prevent Liverpool City Council flooding the Welsh-speaking Tryweryn valley near Bala to create a reservoir.
In July 1966, he won the by-election in Carmarthen, called following the death of Labour MP, Dame Megan Lloyd George, the daughter of former Prime Minister David Lloyd George.

Three years later, Mr Evans lost his seat to Labour, but he returned to Westminster in 1974 and remained there until 1979.

He began a hunger strike in 1980, saying he would fast to death if the then Conservative government would not agree to found a Welsh language television station. S4C was set up in 1982.

He wrote a number of books in both Welsh and English about Wales, his latest in 2001, Cymru o Hud in Welsh and Eternal Wales in English.


--------------------
Slàn agus beannachd,
Allen R. Alderman

'S i Alba tìr mo chridhe. 'S i Gàidhlig cànan m' anama.
Scotland is the land of my heart. Gaelic is the language of my soul.
PMEmail PosterMy Photo Album               
Top
susieq76 
Posted: 26-Apr-2005, 07:56 AM
Quote Post

Member is Offline



Queen of the Stars
Group Icon

Group: Ireland
Posts: 1,259
Joined: 13-Aug-2003
ZodiacVine

Realm: Middle o' North Carolina

female





Thanks, Allen! I saw this yesterday on BBC and didn't get around to posting it on here. It sounds like he was a wonderful man, a great champion for the Welsh.


--------------------
"Alas for those who never sing and die with all their music left in them" - Oliver Wendell Holmes
PMMy Photo Album               
Top
WizardofOwls 
Posted: 26-Apr-2005, 08:30 AM
Quote Post

Member is Offline





Wanderer and Vagabond
********

Group: Celtic Nation
Posts: 5,142
Joined: 12-Mar-2004
ZodiacVine

Realm: Wytheville, Virginia

male





Glad you enjoyed it!

Do you ever look at the Celtic Languages In the News thread? Although it is mostly about Scottsih Gaelic, there are occasionally stories about the other Celtic Languages too! You should look through there! There are several Welsh stories if I'm recalling correctly!
PMEmail PosterMy Photo Album               
Top
gwenynen 
Posted: 27-Apr-2005, 09:00 AM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





Thanks, Wizard of Owls for posting this topic. I respect him so much. As you can read from the tributes, he was a rare man of integrity. It's indeed rare to hear politicians from different parties unanimously praise someone whether they agree with his political views or not.

I read two of his books which opened my eyes about Wales:

"Land of my Farthers" - the best book on the Welsh history from the Welsh point of view. This ought to be the standard textbook for students in Wales. You'll appreciate the Welsh heritage.

"For the Sake of Wales" - his autobiography. I was amazed he never bad-mouthed even his political opponents. He was so passionate for his belief yet so gentle.

I'm happy he's with Jesus now. I only hope his spirit for Wales will be carried on by the coming generations.


--------------------
Weithiau, mae'r ateb i'n problemau o dan ein trwynau, dim ond bod angen i ni gymryd cam yn ôl ac edrych eto. - Stuart Kerner
PMEmail Poster                
Top
Siarls 
Posted: 28-Apr-2005, 03:23 PM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





I have to get those books. I will be studying Saunders Lewis next year. Another pioneer for the Welsh Language, although I am apprehensive. So far, I regard him as a bit of Welsh fascist. I'll soon see.


--------------------
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i´m gwlad
Tra môr yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i´r heniaith barhau
PMEmail Poster               
Top
gwenynen 
Posted: 28-Apr-2005, 08:28 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





I read "Siwan" by Lewis (all in English and act I in Welsh) two months after I started learning Welsh! It was a crazy attempt but I had a silly reason to want to read it. I ought to talk about Lewis in the Welsh literature section though.
PMEmail Poster                
Top
1 User(s) are reading this topic (1 Guests and 0 Anonymous Users)
0 Members:

Reply to this topic Quick ReplyStart new topicStart Poll


 








© Celtic Radio Network
Celtic Radio is a TorontoCast radio station that is based in Canada.
TorontoCast provides music license coverage through SOCAN.
All rights and trademarks reserved. Read our Privacy Policy.








[Home] [Top]