Gwnaf! Yn y dyfodol... pan allaf ei fforddio hi! Hoffwn weld y Ty Opera yn Sydney a'r Great Barrier Reef. Sut bynnag, fi'n casau teithio hefyd - hedfan hir i Awstralia - byddai rhaid imi aros ar y ffordd am chydig - gweld LA, Singapore am rhai diwrnod!
--------------------
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i´m gwlad Tra môr yn fur I'r bur hoff bau O bydded i´r heniaith barhau
Fi'n casau LA gan fwyaf - dinas frwnt iawn ydyw, Hollywood yn enwedig, er fod y lle yn llawn o ynni - lle da i fyw os wyt ti'n moyn fod a^chyffroad cymaint. Ni allai neb fforddio aros yno Siarls onid allet ti aros gyda chyfeillion.
Hoffwn gymryd tren ar draws Awstralia Austaff, er mwyn imi gael gweld y tir yn llwyr. Hoffwn weld Melbourne a'r traethau hefyd. 'Roeddwn i'n edrych ar A Day In The Life of Australia mewn llyfrgell unwaith, ond dyna'r ystent fy nheithio yno hyd yn hyn. Math o daith oedd hi a defnyddio'r dychymyg fel gyfrwng.....gydag 'chydig o luniau i'w gyffroi.
--------------------
Yr hen Gymraeg i mi, Hon ydyw iaith teimladau, Ac adlais i guriadau Fy nghalon ydyw hi --- Mynyddog
Wel, hoffwn weld lot o'r byd, ond a d'eud y gwir wrthych, mae eisiau arnaf weld gwledydd nad ydynt yn siarad Saesneg cyn gweld lleoedd fel America neu Awstralia. Fi'n dwlu ar ddiwylliant ac ieithoedd, ch'mod?
nad ydynt:that do not mae eisiau arnaf:fi eisiau ch'mod:you know?/make sense?
Hmmmm. Edrycha i 449 golygon ar drywydd 'ma sydd wedi bod yn y Gymraeg yn unig. Tybed pam nad ydyn nhw'n postio yma eu hunain. Os nad oes ganddynt rithyn o ddiddordeb pam ydyn nhw'n darllen - pwy bynnag ydynt? Chwilfrydig.
Efallai Gwenynen. Mae 'na llawer iawn o bobl chwilfrydig 'te, yn enwedig os byddant yn ei chael hi'n anodd i ddarllen y postiau. Rhaid bod y sawl sy'n lechu yma ddi-ddechreuwyr hefyd dw i'n credu ond 'does neb sy'n wybod dim amdanynt.
Ces i sgwrs yn Gymraeg am y tro cynta yn fy mreuddwyd neithiwr! Cwrddais i ag Antwn ond dechreon ni siarad Saesneg. Wedyn dywedais i, "Rhaid i ni siarad Cymraeg." A rhywbeth mwy, ond anghofiais i. Nid sgwrs, a dweud y gwir oherwydd dim ond fi oedd yn siarad. 'It would've been' rhy anodd creu sgwrs Antwn. Dyna pam, dw i'n siwr!
Wel Gwen, yr oedd cymaint o bobl fy mod wedi gorfod cyfarfod mewn breuddwydion ar hyd y nos yr oeddwn i wedi blino iawn - (peth od mewn breuddwyd) erbyn ein cyfarfod yr oedd gennyf ddi-ddweud. Pe hoffet ti gadw oed a^ fi mewn breuddwyd dyfodol, rhaid iti wneud apwyntiad a^fi ymlaen llaw Fe fyddwn i'n dod a^'r Geiriadur Mawr.
Helo ichi gyd. Fi nôl o Lundain nawr - 'na ddinas ffantastig. Er nad wi'n shwr os bydda i'n gallu byw yno. Es i i bar gwin hyfryd ger Embankment. Fi wedi cael digon o feddwon Cymraeg! Yng Nhgymru, mae lot o bobl yn mynd mas i wneud dim ond meddwi, ond yn Llundain, roedden ni'n yfed gwin er pleser.
Do, fi wedi gweld y fideo byr, Gwen. Mae lot o hiwmor ynddo! Mae'n anodd i actio a chadw ei amynedd o flaen lens camera! Mae dy fab 'di neud yn dda - 'dyw e ddim yn edrych yn nerfus o gwbl. Y bore hwn, o'n i yn Llundain ac odd rhaid imi siarad o flaen camera - anodd iawn! O'n i'n meddwl mod i'n edrych yn nerfus, ond yn ôl y ferch gamera, o'n i'n edrych yn ffein - dim nerfau!
er nad wi'n = though I do not meddwon = drunks meddwi = to get drunk er pleser = for pleasure do = yes I have amynedd = patience ac odd = ac 'roedd ffein = fine nerfau = nerves