Dw i wedi bod yn meddwl yr un peth am Austaff, Gwen a Siarls. Nad yw'r fforwm yr un peth hebddo fe. Dw i wedi bod yn darllen mwy na gydroddi at fforymau yn ddiweddar. Dim llawer i'w dweud heddiw.
--------------------
Yr hen Gymraeg i mi, Hon ydyw iaith teimladau, Ac adlais i guriadau Fy nghalon ydyw hi --- Mynyddog
Yn wir Siarls! Beth sy'n bod gyda nhw? Pam ydyn nhw'n credu bod Cymraeg yw iaith Gaeleg? Os yw eisiau arnyn nhw rhoi hwb i ieithoedd Celtaidd yna dylen nhw ddefnyddio categori cywir i'r cwbl oll yn lle'r rhai o'r Alban ac Iwerddon yn unig. Y gwir amdani yw maen nhw'n anwybodus i bob golwg ac ymddwyn yn un wedd a^ phob iaith Geltaidd yw iaith Gaeleg ac mae siaradwyr Cymraeg yn "second class citizens" yn eu plith. Mae gennym ni gyfranogaeth fwyaf yma er gwaethaf y ffaith bod ni wedi denu llai pobl.
Cafodd na'r byrdd Llywadeg na Chernyweg mo'i defnyddio er mwyn dysgu neu ymarfer gan neb Gwen, er nad dyna reswm i'w cymryd nhw o ddifrif, siwr o fod, ond dyna pam ydw i wedi gadael nhw allan.
Pam wnaethon nhw'r fath newid yn y lle cynta'? Ie, gofyni bryd fydd Wizard yn tynnu Cymraeg oddi ar y categori Gaeleg Siarls, os gweli'n dda. Dylai fe wrando i ti, cymedrolwr y bwrdd Cymraeg ydwyt.
Do, dw i wedi siarad a^ Wizard am ein problem ni! Dywedodd y byddai'n son amdano wrth y moderators. Ond fe'i wneuthum ar yr un diwrnod pan newidwyd i Gaelic Languages, ac ni chefais ateb eto - ychydig o wythnosau ar ol. Beth ydych yn meddwl? Dylwn i wneud/ddweud rhywbeth arall?
Wel, mae'r teitl Gaelic Languages yn dal ymlaen. Y drwg peth yw na byddai neb sydd a^ diddordeb yng Nhgymraeg yn cael syniad bod bwrdd fel hynny wedi dod i fod ar y wefan hon. Pam fydden nhw'n disgwyl ei ffeindio o dan teitl ieithoedd Gaeleg? Sut bydden nhw'n gwybod amdanon ni petawn ni'n chwilfrydeg?
O ble fydd aelodau newydd yn dod? Efallai y dylen ni feddwl am recriwtio aelodau ychwanegol, be' dych chi'n meddwl? Oes eisiau arnoch neu ydych am gadw'r sefyllfa fel y mae? Gallai aelodau newydd rhoi tipyn o sbonc i bethau neu beidio......
Diolch yn fawr Gwenynen, oedd rhaid imi weithio ar Ddydd Dewi Sant, dyna'r hyn y gwnes. Dw i'n hoffi dy flog! Wow! Roeddet ti wedi codi'r Ddraig Goch ar dy gar y tu blaen i WalMart! Bendigedig.