Heia Siarls, wyt ti'n nabod Mark Stonelake yn y brifysgol na? Fo ydy'r prifdiwtor fydd yn dysgu cwrs Cymraeg Madog yn Iowa ym mis Gorffennaf. Dw i'n bwriadu mynd ond dw i ddim yn gwybod eto pwy fydd yn fy nhiwtor i.
Mi ddylet ti ddwad draw i ddysgu'r cwrs ryw flwyddyn hefyd. Mi a i ac Antwn i'r cwrs a chynnal Cwrdd Fforwm Celtaidd.
--------------------
Weithiau, mae'r ateb i'n problemau o dan ein trwynau, dim ond bod angen i ni gymryd cam yn ôl ac edrych eto. - Stuart Kerner
MAE FLIN GENNYF! DW I WEDI BOR MOR BRYSUR!!! DW I YN Y FLWYDDYN OLAF YN AWR, FELLY MAE LLAWER IAWN GENNYF I'W WNEUD.
DW I'N CWBLHAU'R BRIFYSGOL AR 2IL O FIS MEHEFIN, AR OL 4 BLYNEDD O ASTUDIO!!! OND DW I DDIM YN GWYBOD/SICR YR HYN YR WYF YN MYND I'W WNEUD AR OL IMI ORFFEN! ARGHHHHHHHHHHHH PETHAU OFNUS IAWN.
Shwd ydych chi i gyd?
--------------------
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i´m gwlad Tra môr yn fur I'r bur hoff bau O bydded i´r heniaith barhau
Dim problem, Siarls. Dan ni'n gwybod fod ti wedi bod yn brysur. Gobeithio etih popeth yn iawn.
Dw i'n dal i fwynhau gwneud Cwrs Pellach, sgwennu fy mlog a siarad Cymraeg â fy nwy ffrind ar Skype bob wythnos. Dw i'n edrych ymlaen at briodas fy merch a Gwrs Cymraeg Madog hefyd.
Ah! Ydych chi gyd yma o hyd. Dw i wedi bod yn mwynhau dy flog yn rheolaidd Gwen. Rhoi wybod i mi yr hyn fod ti'n meddwl am Gwrs Cymraeg Madog os gweli'n dda. Wel, fe fydda'n darllen amdano ar dy flog heb amau.
Byddi'n dod i ben a^'th astudiaethau'n fuan Siarls - llongyfarchiadau ymlaen llaw!
S'mae Antwn. Diolch i ti am ddarllen fy mlog. Mae'r safle newydd yn edrych yn dda. Ella dylen ni i gyd "allfudo" i'r fforwm Cymraeg! Ond mae'n siwr byddwn ni'n dod ar draws llawer o bobl dan ni'n eu nabod yn barod yna.
Mae'n edrych fel syniad da ar ei wyneb ond ydym ni wedi codi carennydd da rhyngddon ni dros amser hir ar Radio Celtaidd nad fyddwn i ei golli. Gwn i fod pobeth yn gwahanol bellach ar ol i'r marw Austaff ond efallai gallai'r tri ohonon ni fod yn dal i gyfarfod a^'n gilydd yma ambell dro os dim ond i siarad helo. Nad oes dim problem gyda fi i'w ymuno (fforwm newydd) - ond nad oes dim eisiau arnaf golli ti a Siarls mewn torf ychwaith!! Gad inni wneud y safle yna lle ychwanegol i'w cyfarfod yn lle gorfodi eu hunan i ddewis naill neu'r llall. Beth ydych chi'n meddwl am hynny?
Dw i'n hoffi'r fforwm ma ac yn meddwl bod gynno fo gynlluniau tudalen llawer gwell na'r lleill. Y broblem ydy bod y bobl ddim yn ein gwybod achos mai dan Celtic Radio ydyn ni. Dim ond gobeithio basai mwy o aelodau yma dw i.
Ti'n iawn, Antwn. Does dim rhaid i ni roi gorau iddo. Ella cawn ni weld sut eith yn y fforwm newydd. Mae Neil o Gilgwri wedi ymuno â fo'n barod.
Dw i wedi gweld y bydd pobl yn aros i weld yr hyn sy'n digwydd gyda negesfwrdd newydd cyn iddyn gyflawni iddi mewn rhan fawr eu hun. Weithiau yr hyn sydd heb ei sylweddoli yw nhw a'u postiau sy'n cyfrannu at ei llwyddiant hefyd. Dim bostiau dim negesfwrdd.
Dw i wedi gweld gwefannau eraill yn methu, sef World Wide Welsh (yn Gymraeg) ac un arall ond dw i wedi anghofio ei henw ar hyn o bryd. Gwn i fod hi'n anodd pan wyt ti'n llawn cyffro i'r llwyddiant gwefan newydd ond nad oes neb sydd mor gyffroedig a^ thi. Rhoi siawns fach iddi - efallai bod hi'n tyfu fel maes-e gydag amser os byddai bobl oddi ar Welsh Learners yn ymuno a^'r safle newydd a siaradwyr rhugl fel "Alwyn" yn arbennig er mwyn rhoi gyngor gramadegol inni i gyd.
Ha! na pherson yw Gilgrwi ond llecyn! Wel, dw i'n teimlo fel twpsyn mawr!
0 User(s) are reading this topic (0 Guests and 0 Anonymous Users)