Welcome Guest ( Log In | Register )










Reply to this topicStart new topicStart Poll

> Advanced Welsh, Welsh Only!
austaff 
Posted: 13-Feb-2006, 07:08 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
Group Icon

Group: Wales
Posts: 326
Joined: 20-May-2005
ZodiacReed


male





Oes Antwn mae traethau hardd iawn yma, ond beryglus hefyd, os wyt ti’n ddim yn ofalus. Lawer o twristiaid toddi pob flwyddyn achos ei bod nhw'n ddim yn nofio ar y traethau ddiogel.

Gwenynen Mae Cwrs DD yn wych dw i’n wedi newydd dechrau y cwrs.



--------------------
A fo ben bid bont
PMEmail Poster               
Top
Siarls 
Posted: 13-Feb-2006, 07:23 PM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Wow, mae pawb fan hon yn gwneud yn wych! Da iawn chi gyd.
Sori, fi'n methu aros am hir... jyst i ddweud nad oes treiglad ar ol 'm.

Ti'n gallu dweud "o fy nghwmpas" os ti eisiau, ond cofia, "o'm cwmpas" - does dim treiglad!!!

Na, dw i ddim yn mynd i adael, ond fi'n shwr y bydd yn brofiad cynorthwyol i chi gyd i gwyrio'ch gilydd.

Tata am y tro


--------------------
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i´m gwlad
Tra môr yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i´r heniaith barhau
PMEmail Poster               
Top
gwenynen 
Posted: 14-Feb-2006, 08:48 AM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





Diolch, Austaff, Siarls.

Austaff, gwnes ti 'typo' digri! - "twristiaid toddi" Ti'n meddwl "boddi."


--------------------
Weithiau, mae'r ateb i'n problemau o dan ein trwynau, dim ond bod angen i ni gymryd cam yn ôl ac edrych eto. - Stuart Kerner
PMEmail Poster                
Top
austaff 
Posted: 14-Feb-2006, 06:49 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
Group Icon

Group: Wales
Posts: 326
Joined: 20-May-2005
ZodiacReed


male





oops.gif
Diolch Gwenynen ie dw i’n meddwl boddi nid toddi. Er alli di toddi ar y traeth hefyd os eisteddaist ti yn y haul rhy hir.
PMEmail Poster               
Top
Siarls 
Posted: 15-Feb-2006, 07:42 AM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Cywiriad arall - mae'n angen "yn" gyda dim ond un ferf sef BOD.
Felly,
Wyt ti'n hoffi mynd (i'r pwll nofio e.e.)?

Ond,
Hoffet ti fynd (i'r pwll nofio e.e.)?

Allech chi weld y wahaniaeth rhwng y ddau?
Ydych chi'n gallu gweld y wahaniaeth rhwng y ddau?
PMEmail Poster               
Top
Antwn 
Posted: 15-Feb-2006, 06:21 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 1,409
Joined: 18-Apr-2005
ZodiacBirch

Realm: UDA ond o linach Cymry

male





Gwen - ie, heirdd = hardd mewn ffurf lluosog -- ti'n gwybod sut fi'n hoffi Cymraeg "hotsy-totsy" .....heblaw hyn wink.gif

Mae rhai ansoddeiriau yn cael ffurf lluosog ond does neb sy'n ei defnyddio yn ol pob tebyg.....er alla i fod yn anghywir.


--------------------
Yr hen Gymraeg i mi,
Hon ydyw iaith teimladau,
Ac adlais i guriadau
Fy nghalon ydyw hi
--- Mynyddog
PMEmail Poster               
Top
Siarls 
Posted: 17-Feb-2006, 12:38 PM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Na ti'n iawn, Antwn - mae 'na ffurfiau lluosog a benywaidd ond cofiwch gyd - PEIDIWCH A^'U DEFNYDDIO NHW AR OL Y

Er enghraifft:
mae'r merched heirdd
mae'r merched yn hardd

Chydig pedantig yw e, ond mae'n well gennyf eu defnyddio nhw achos mae'n swnio'n hardd iawn yn Gymraeg.

Gyda llaw, yn ymdrin a^'r pwnc 'ma, wyt ti'n cofio dadl ar "pobl ifanc/ifainc", Gwen? 'Roeddwn i'n siarad a^'r un o fy narlithwyr a dywedodd ef mai "pobl ifainc" yw furff gywir. Dal, dw i ddim yn sicr fy mod i'n cytuno, ond falle mai dylanwad Eidaleg arnaf yw hi!! (yn Eidaleg, dywedir "gente giovane", nid "gente giovani" achos: gente (unigol) ond lluosog yw'r gair "giovani")
PMEmail Poster               
Top
Siarls 
Posted: 17-Feb-2006, 12:39 PM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Sori, fi'n golygu ar ol YN
nid ar ol y. Mae'n flin gennyf!
PMEmail Poster               
Top
gwenynen 
Posted: 17-Feb-2006, 02:01 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





Dw i newydd ddysgu ansoddeiriau gyda ffurf benywaidd (llond ceg!) yn Welsh Rules gan H. Gruddudd. (Prynais i fe o'r diwedd.) Bydda i'n dysgu ansoddeiriau gyda ffurf lluosog nesa. Dw i ddim yn meddwl fy mod yn eu defnyddio'n berffaith ond dw i'n dysgu o leia.
PMEmail Poster                
Top
Siarls 
Posted: 17-Feb-2006, 06:16 PM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Wel, a d'eud y gwir - 'dyw ffurfiau benywaidd neu luosog yn hollol bwysig i'r Gymraeg Lafar. Felly, peidiwch a^'u gwneud nhw fel blaenoriaethau.
PMEmail Poster               
Top
Antwn 
Posted: 18-Feb-2006, 02:51 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 1,409
Joined: 18-Apr-2005
ZodiacBirch

Realm: UDA ond o linach Cymry

male





Diolch Siarls.

Ymddiheuriadau am fy nistawrwydd, dw i wedi bod yn sal fel ci dros wythnos nawr - gobeithio y alla i ddod trwyddi o'r diwedd. Mae rhai gwelliant wedi bod yn gwneud o'r gwrthfiotig fy mod yn cymryd ond dw i wedi gorffen nawr. Fydda'n dweud wrthoch cymaint a hyn mae hiraeth arna fi droi'n ol i fod mewn iechyd da yn fuan.
PMEmail Poster               
Top
Siarls 
Posted: 19-Feb-2006, 04:51 AM
Quote Post

Member is Offline



Student of Modern Celtic Languages
Group Icon

Group: Wales
Posts: 787
Joined: 19-Apr-2005
ZodiacHawthorn

Realm: The Lliw Valley, South Wales

male





Na mae'n ffein - does dim angen ymddiheuro. A pheidiwch a^ dweud "chi" wrthyf - defnyddiwch y ffurf "ti".

Gobeithio dy fod di'n iawn, fi'n anfon fy nymuniadau gorau puraf atat ti.
PMEmail Poster               
Top
Antwn 
Posted: 19-Feb-2006, 01:30 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 1,409
Joined: 18-Apr-2005
ZodiacBirch

Realm: UDA ond o linach Cymry

male





Diolch Siarls --- ro'n i'n siarad at pawb y pryd hwnnw er mod i ddim yn eglur iawn - felly ro'n i'n defnyddio "wrthoch". Dw i wedi defnyddio "ti" gyda thi o'r blaen.
PMEmail Poster               
Top
gwenynen 
Posted: 19-Feb-2006, 09:00 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





Dw i'n gobeithio y byddi di'n gwella yn fuan, Antwn. Sut mae dy swydd newydd?
PMEmail Poster                
Top
gwenynen 
Posted: 19-Feb-2006, 09:13 PM
Quote Post

Member is Offline



Celtic Guardian
********

Group: Celtic Nation
Posts: 766
Joined: 26-Mar-2005
ZodiacReed


female





QUOTE (Siarls @ 17-Feb-2006, 01:38 PM)
Gyda llaw, yn ymdrin a^'r pwnc 'ma, wyt ti'n cofio dadl ar "pobl ifanc/ifainc", Gwen? 'Roeddwn i'n siarad a^'r un o fy narlithwyr a dywedodd ef mai "pobl ifainc" yw furff gywir. Dal, dw i ddim yn sicr fy mod i'n cytuno, ond falle mai dylanwad Eidaleg arnaf yw hi!! (yn Eidaleg, dywedir "gente giovane", nid "gente giovani" achos: gente (unigol) ond lluosog yw'r gair "giovani")

Edrycha hwn, Siarls:

"It is possible to put a plural adjective after 'pobl', and it is mutated - pobl ifanc/pobl ifainc." (tudalen 208, Welsh Rules, H. Gruffudd)

Mae'n ymdangos gallwch chi dweud un o'r ddau.
PMEmail Poster                
Top
0 User(s) are reading this topic (0 Guests and 0 Anonymous Users)
0 Members:

Reply to this topic Quick ReplyStart new topicStart Poll


 








© Celtic Radio Network
Celtic Radio is a TorontoCast radio station that is based in Canada.
TorontoCast provides music license coverage through SOCAN.
All rights and trademarks reserved. Read our Privacy Policy.








[Home] [Top]